1950-1959
Y dechrau…
Sefydlwyd y Mads ym mlwyddyn academaidd 1950 gan fyfyriwr Saesneg, Walter Ryan, Llywydd Cymdeithas Gerddoriaeth y Coleg ar y pryd. Cred Walter fod angen dewis arall ar gantorion y brifysgol heblaw Côr y Coleg. Roedd Walter am i'r cor arbenigo yn y cyfnod cyn-glasurol; ac felly daeth Cantorion Madrigalau Elisabethaidd Aberystwyth i fod.
Perfformiadau Cynnar
Y gyngerdd gyntaf
Perfformiodd y Cantorion Madrigalau Elisabethaidd am y tro cyntaf yn y Cyngerdd Coleg cyntaf yn Neuadd y Frenin ar Rhagfyr y 3ydd 1950.
Ionawr 1951 - Bryste
Ar 4 Ionawr 1951, perfformiodd y Mads yng Ngŵyl Gelfyddydau'r NUS ym Mryste, yn Eglwys Fethodistaidd Fictoria. Cafodd y côr y fraint o berfformio rhaglen gyflawn, 32 darn, gan gynnwys madrigalau megis Fair Phyllis, Lady, When I Behold ac Oyez! Has any found a lad?, Cibavit Eos a Visista quaesumuo o anthemau Byrd, a Missa aeterna Christi munerao waith Palestrina, a hefyd cafwyd eitemau unawd gan Dewi Thomas (bariton), Margaret Richards (soprano) a Walter Ryan (organ).
Ionawr 1952 - Trecynon
Dechreuodd y traddodiad o mynd a Mads ‘i gwrdd â’r rhiennu’ yn draddodiad arall dechreuodd yn gynnar. Teithiodd y côr i Drecynon, bentref enedigol Walter Ryan ar y 3ydd o Ionawr 1952. Gwelir y camsyniad printio ar y rhaglen!
Cyngherddau'r Coleg
Yn ei rol fel Llywydd Cymdeithas Gerddoriaeth y Coleg, ffurfiodd Walter Ryan gyngherddau'r coleg hefyd, lle bu'r Mads yn perfformio'n rheolaidd.
1957 - Llangollen
"Roedden ni'n cystadlu yn ygystadleuaeth ar gyfer Partïon Canu Gwerin25 o leisiau, yn erbyn 32 o gorau eraill o ledled y byd. Am fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gadael Aber yn ystod mis Mehefin, nid oedd cyfle gennym i ymarfer tan y diwrnod cyn y gystadleuaeth. Gweithion ni oll ein ffordd ein hunain i Langollen ddydd Mawrth, 9Gorffennaf, a chwrdd 'ar ochr y cae i’r bont' ger yr orsaf drenau. Rhai oriau gwyllt o waith ar y ddau ddarn y noswaith honno, canu trwyddynt yn gyflym ar y cae y bore canlynol, ac yn sydyn roedden ni ar y llwyfan, wedi’n hamgylchynu gan yr aroglau a’r lliwiau sy’n rhan mor fawr o’r ŵyl. Gwnaeth ein perfformiad blesio’r gynulleidfa, ac rwy’n cofio (yr Arglwydd) Emlyn Hooson ifanc iawn yn rhedeg i gefn y llwyfan i’n llongyfarch ni. Ond roedd rhaid i ni aros ar bigau'r drain drwy’r dydd am y canlyniad, am i'r gystadleuaeth barhau ymhell i sesiwn y nos. Cawsom ein synnu a'n plesio'n fawr drwy dderbyn yr ail wobr, rhwng yr enillwyr o Iwgoslafia a’r grŵp o Groesoswallt, Lloegr."
— Jane Davies (nee Filer) yn cofio cystadlu yn Llangollen ym 1957.
Atgofion Mads
“Yn fy ail flwyddyn cefais, er mawr dychryn, i mi gael fy ethol yn Llywydd ar Gymdeithas Gerddoriaeth y Coleg, ac felly roeddwn i'n gyfrifol am holl weithgareddau cerddorol y myfyrwyr. Roedd hyn yn cynnwys dau beth – y Gram Soc ar nos Sul, a Chôr y Coleg ar brynhawn Sul. Roedd y Gram Soc yn rhedeg ei hun fwy neu lai, a'r unig gyfraniad roedd rhaid i mi wi wneud oedd ehangu'r gwrando drwy gyflwyno gweithiau newydd. Bob dydd Sul, gyda phob lle wedi'i lenwi, hyd yn oed eistedd ar y grisiau, gwrandawon ni yn y tywyllwch ar Walton Rhif 1 neu Sibelius Rhif 2. Roedd y tywyllwch yn ein cynorthwyo i ganolbwyntio, ac yn caniatáu i ni ddal llaw ein cariadion presennol.
“Roedd côr y myfyrwyr, fodd bynnag, yn broblem fwy, oherwydd roedd yn amlwg i mi fod yma wastraff llwyr. Roedd gennym ymhell dros gant o leisiau ifanc, ac o'r hyn y gallwn ei weld, eu hunig bwrpas oedd cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol unwaith y flwyddyn. Oherwydd bod hyn yn cynnwys dau waith yn unig ar gyfer y côr cymysg, a'r un nifer ar gyfer y corau meibion a merched, byddem yn treulio hanner y flwyddyn yn ymarfer chwe darn yn unig. Yn aml roedd hyn yn golygu diffyg cysondeb mewn ymarferion.
“Gyda chymaint o ddawn yn cael ei wastraffu, roedd rhaid gwneud rhywbeth, dyna oedd fy marn i. Felly sefydlais y cyngherddau coleg, a chynhaliwyd y gyntaf yn Neuadd y Brenin ar 3 Rhagfyr 1950, a sefydlwyd y Cantorion Madrigalau Elisabethaidd.
“Yn y flwyddyn gyntaf gwahoddais gydfyfyriwr, Alun Roberts, i fod yn arweinydd, ond gan gadw rheolaeth agos dros bolisi'r côr. Byddai'r Cantorion Madrigalau Elisabethaidd yn arbenigo mewn cerddoriaeth yr oes gyn-glasurol, ac roedd ein rhaglenni'n cyd-fynd â'r polisi hwnnw, heb wyro oddi wrtho fyth.”
— Walter Ryan (sylfaenydd)