1960-1969
Cyfnod y teithiau
Erbyn 1960, roedd y Mads ar bigau'r drain. Ar ôl eu llwyddiant gartref, roedd y côr yn awyddus i deithio i'r cyfandir a thu hwnt. Yn ôl cylchgrawn Courier y brifysgol ym 1960, roedd y diolch mwyaf am yr ysbryd anturus newydd hwn i arweinydd newydd y Mads, Roy Bohana. Beth bynnag oedd ei wreiddiau, parhaodd yr ysbryd yn gryf drwy gydol y 1960au.
Gweithio ym myd y cyfryngau
Uchafbwynt arall ym 1964 oedd cyfraniad y Mads i raglen BBC mewn cyfres o'r enw Songs for the Asking. Cyflwynwyd y rhaglen gan Michael Aspel, ac roedd yn cynnwys Cerddorfa Gymreig y BBC dan arweiniad Arwel Hughes, gyda Charles Clementsar y piano, ac a ddarlledwyd ddydd Gwener 29 Mai.
Atgofion Mads
“Roedd ein penderfyniad i fynd yno yn syfrdanol o naïf. Prin oedd y rhai ohonom a sylweddolodd yr amodau llwm oedd yn bodoli yn Leningrad a Moscow ym 1964, ond roeddem yn benderfynol o fynd i 'rywle gwahanol', felly cysylltodd y pwyllgor, dan y cadeirydd John Lyn Davies, â'r Llysgenhadaeth Sofiet, gan gynnig ein gwasanaethau yn ystod gwyliau haf 1964. Fe'n gwahoddwyd i dreulio pythefnos ym mis Medi yn canu mewn sefydliadau addysgol amrywiol ac, o bosib, ar y teledu. Parodd y daith dair wythnos oherwydd y daith drên hir ar draws Ewrop.
“Fe'n croesawyd yn gynnes ym mhob man, a chawsom deithiau hyfryd i balasau, cadeirlannau a phob math o amgueddfeydd. Ar un achlysur, gwelon ni giw milltir o hyd i feddrod Lenin yn Red Square, ac awgrymodd ein tywysydd efallai yr hoffem ni ymuno. Ar ôl cynhadledd gyflym (yn Gymraeg, wrth gwrs, am fod y rhan fwyaf o'n cantorion yn siarad iaith y nefoedd!), gofynnom i gael ein hesgusodi, gan fynnu ein bod wedi blino'n lân. Yn ddiffwdan, siaradodd yr tywysydd â swyddog heddlu a rannodd y dorf oedd yn ciwio rai llathau o'r fynedfa a'n gosod ni yn y bwlch. Ni chwynodd un o'r Rwsiaid!
“Do, gwnaethom berfformio nifer o gyngherddau, gan gynnwys rhai yn Conservatoire Leningrad a Phrifysgol Moscow, ac ymddangoson ni hefyd ar ddwy raglen deledu, ond rwy'n credu y bydd pob un o'r deunaw aelod o'r Mads yn cytuno bod yr holl brofiad yn dal i fod yn fyw yn ein hatgofion, am i daith 1964 newid ein safbwynt o'r byd.”
— Joan Wyn Hughes ar y daith i Rwsia ym 1964
“Ym 1964, daeth Michael Tippett i Aberystwyth, a chynhaliodd y Mads gyngerdd er anrhydedd iddo yn y Neuadd Arholi (adeilad yr Hen Goleg). Canon ni ei ganeuon gwerin o Ynysoedd Prydain - wrth gwrs, canon ni'r un Gymraeg, 'Gwenllian'. Roedd un aelod o'r côr (tenor, wrth gwrs!) heb sylweddoli ein bod yn ei chanu'n Saesneg er mwyn Tippett - roedd y copi'n cynnwys geiriau Cymraeg a Saesneg. Felly dechreuon ni oll ganu 'My Heart's Delight, Delight'. Canodd y tenor (nad oedd yn edrych ar yr arweinydd yn rhythu arno, gan anwybyddu ei gyd-gantorion yn ei brocio) 'Gwenllian, Gwenllian ...' yn braf, a gyrhaeddodd glustiau Tippet er gwaethaf gweddill y côr. Carion ni ymlaen i ganu tan i ni sylweddoli bod Tippett - dyn tal tebyg i rwber yn eistedd yn y rhes flaen - yn chwerthin fel ffwl! Cliriodd hyn yr awyr, felly gwnaethom stopio, chwerthin yn braf a dechrau eto, gyda phawb yn canu'r un iaith! Roedd yn siaradus ac yn gyfeillgar iawn, ac ar ddiwedd y gyngerdd chwaraeodd ei ail sonata biano i ni, yr oedd newydd ei chyfansoddi - doedd y cyhoedd heb ei chlywed eto. Diwrnod hanesyddol i'r Mads!”
— Dorothy Clarke telling the story of meeting one of Britain’s foremost composers